R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl yr iaith Gymraeg yn y broses gynllunio? OAQ(4)2192(FM)W
2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru? OAQ(4)2191(FM)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyllideb y DU? OAQ(4)2201(FM)
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adnoddau mewn ysbytai yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2194(FM)W
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu'r rhwydwaith drafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2203(FM)W
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o gynhadledd gofal iechyd y canolbarth a gynhaliwyd ar 12 Mawrth? OAQ(4)2195(FM)W
7. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2200(FM)W
8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ar brotocol newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr? OAQ(4)2204(FM)W
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ(4)2189(FM)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella lles economaidd trigolion Canol De Cymru? OAQ(4)2202(FM)
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae asiantaethau sy'n gyfrifol am asesu perygl llifogydd yn Nwyrain De Cymru yn gallu gorfodi eu canfyddiadau? OAQ(4)2198(FM)
12. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd yr economi forol i Gymru? OAQ(4)2197(FM)
13. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gapasiti y gwasnaeth iechyd ar gyfer triniaeth y galon? OAQ(4)2193(FM)W
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu o adroddiad Kirkup ynghylch methiannau mewn gofal mamolaeth yn Ysbyty Cyffredinol Furness? OAQ(4)2190(FM)
15. David Rees (Aberafan):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chynlluniau i adfer safleoedd glo brig yng Nghymru? OAQ(4)2196(FM)