Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Rhagfyr 2014 i'w hateb ar 9 Rhagfyr 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses diwydrwydd dyladwy y mae Cyllid Cymru yn ei dilyn wrth ddyfarnu benthyciadau i gwmnïau? OAQ(4)2012(FM)

 

2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn cefnffyrdd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2010(FM)W

 

3. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(4)2018(FM)

 

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau awtistiaeth yng Nghymru? OAQ(4)2011(FM)

 

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau gaeaf y byrddau iechyd lleol? OAQ(4)2017(FM)W

 

6. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sawl gwaith y mae'r Prif Weinidog wedi ymweld â rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OAQ(4)2009(FM)W

 

7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r diffyg a ragwelir o 8,000 o weithwyr medrus o fewn ein diwydiannau gweithgynhyrchu erbyn 2017? OAQ(4)2019(FM)

 

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro effaith tarfu yn y gaeaf ar weithwyr y gwasanaethau brys? OAQ(4)2022(FM)R

 

9. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(4)2020(FM)

 

10. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y manteision i Gymru sy’n deillio o gyfleoedd a chanlyniadau cyfartal gwell? OAQ(4)2008(FM)

 

11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)2006(FM)

 

12. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o ddatganiad yr hydref Canghellor y DU? OAQ(4)2007(FM)

 

13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brosiect cysylltiad canolbarth Cymru? OAQ(4)2014(FM)

 

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella triniaeth i gleifion sydd â hemoffilia? OAQ(4)2015(FM)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gadw prisiau ynni i lawr yng Nghymru? OAQ(4)2021(FM)