R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth? OAQ(4)1987(FM)
2. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y diwydiant twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1983(FM)
3. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru? OAQ(4)1982(FM)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddelio â thrais a gaiff ei gyflawni yn erbyn menywod? OAQ(4)1985(FM)
5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau nesaf i ddatblygu'r system Metro ar gyfer trafnidiaeth integredig yng Nghymru? OAQ(4)1974(FM)
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd aros presennol ar gyfer rheoli poen cronig yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1978(FM)W
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth yng Ngogledd Caerdydd? OAQ(4)1976(FM)
8. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb i'r alwad am lais i Gymru ar ymchwiliad panel annibynnol y Swyddfa Gartref i gam-drin plant yn rhywiol? OAQ(4)1975(FM)
9. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal i bobl sy'n dioddef o ddementia yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1984(FM)W
10. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith y dirwasgiad economaidd ar blant yng Nghymru? OAQ(4)1977(FM)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau economaidd ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)1971(FM)
12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganiad hydref y Canghellor? OAQ(4)1986(FM)W
13. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r effaith y mae mentrau cymdeithasol yn ei chael yng Nghymru? OAQ(4)1972(FM)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i greu'r amodau perffaith ar gyfer twf economaidd yn y tymor hir?
OAQ(4)1981(FM)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella safonau gofal iechyd yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)1980(FM)