Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2014
 i'w hateb ar 18 Tachwedd 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Gwyn Price (Islwyn): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch caniatáu i bobl 16 a 17 oed bleidleisio mewn refferendwm ar bwerau i amrywio trethi yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(4)1966(FM)

 

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y niferoedd sydd wedi cael brechiadau MMR yng Nghymru? OAQ(4)1957(FM)

 

3. Gwenda Thomas (Castell-nedd): Pa gamau sy'n cael eu cymryd i roi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad ar ddyfodol y Gronfa Byw'n Annibynnol yng Nghymru? OAQ(4)1958(FM)W

 

4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â dyfodol brecwast ysgol am ddim? OAQ(4)1965(FM)W

 

5. Elin Jones (Ceredigion):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chynlluniau i yswirio tai sydd o dan fygythiad gan lifogydd? OAQ(4)1960(FM)W

 

6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl sydd ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yng Nghymru? OAQ(4)1955(FM)

 

7. Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar safonau mewn cartrefi gofal yng Nghymru? OAQ(4)1969(FM)

 

8. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bwysigrwydd yr UE i economi Cymru? OAQ(4)1959(FM)

 

9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1954(FM)

 

10. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y manteision i Gymru o aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd? OAQ(4)1964(FM)

 

11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gynyddu cyflogaeth yn ne Cymru? OAQ(4)1967(FM)

 

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sicrhau gwerth am arian ar draws cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1968(FM)

 

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gyfarfodydd y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru ers ei benodiad? OAQ(4)1961(FM)W

 

14. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y trafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Grid Cenedlaethol ynghylch Prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru? OAQ(4)1956(FM)

 

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)1970(FM)