Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Tachwedd 2014 i'w hateb ar 11 Tachwedd 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

 

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddiogelwch ar y ffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1945(FM)

 

2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(4)1943(FM)

 

3. Lynne Neagle (Torfaen):Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch effaith y gyllideb ddrafft ar wasanaethau llywodraeth leol? OAQ(4)1949(FM)

 

4. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1944(FM)

 

5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth chwaraeon ledled Cymru? OAQ(4)1938(FM)

 

6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill 2014/15? OAQ(4)1951(FM)

 

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar baratoadau ar gyfer llifogydd dros y gaeaf? OAQ(4)1950(FM)

 

8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â diogelu plant? OAQ(4)1936(FM)

 

9. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Cymru o Blaid Affrica? OAQ(4)1939(FM)

 

10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chyfrifoldebau nyrsys ymarfer? OAQ(4)1946(FM)W

 

11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar Nodyn Cyngor Technegol 8? OAQ(4)1952(FM)

 

12. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu cynlluniau ynni cymunedol yng Nghymru? OAQ(4)1942(FM)

 

13. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei ymweliad diweddar ag India? OAQ(4)1941(FM)

 

14. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar bwysigrwydd perthynas Cymru â'r UE? OAQ(4)1947(FM)

 

15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)1953(FM)