R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â datganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon? OAQ(4)1927(FM)W
2. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn a gyflawnwyd gan fenter Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin yng Nghastell-nedd? OAQ(4)1932(FM)
3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynlluniau sifil wrth gefn a chynllunio ar gyfer argyfyngau yng Nghymru? OAQ(4)1935(FM)
4. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar effaith strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau mwy o gyfleoedd cyfartal yng Nghymru? OAQ(4)1925(FM)
5. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud tuag at ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2020? OAQ(4)1930(FM)
6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn colli arian drwy dwyll? OAQ(4)1934(FM)
7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y niferoedd sy'n ymweld ag atyniadau twristaidd yng Nghymru? OAQ(4)1926(FM)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y caiff y ddarpariaeth o drafnidiaeth ei datblygu yn y dyfodol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1922(FM)
9. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ynghylch cynlluniau i adeiladu canolfan gofal integredig yn Nhregaron? OAQ(4)1923(FM)W
10. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ail-ddilysu meddygon yng Nghymru? OAQ(4)1931(FM)
11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau ambiwlans ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1921(FM)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar yr isadeiledd trafnidiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)1919(FM)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd yn Sir Fynwy? OAQ(4)1929(FM)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar weithredu cynigion y Comisiwn Williams nad ydynt yn ymwneud â deddfwriaeth? OAQ(4)1924(FM)
15. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Sut y Cofio 2014? OAQ(4)1920(FM)