Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad i ddulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi.

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

 

Y Cylch Gorchwyl

-       Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi?

-       Pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i phartneriaid yn Llywodraeth y DU (Masnach a Buddsoddi y DU, a Chyllid Allforio y DU)?

Dyma’r materion sy’n cael eu trafod gan y Pwyllgor fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn:

 

Materion Allweddol a awgrymir

 

-       Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi? A yw’n ddigonol? A yw’n cynrychioli gwerth am arian?

-       Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ei gweithgareddau masnach a mewnfuddsoddi?

-       A yw dulliau mewnol presennol Llywodraeth Cymru o annog masnach a mewnfuddsoddi yn cynrychioli gwelliant ar y sefydliadau a oedd yn bodoli’n flaenorol i gyflawni’r un swyddogaethau? (h.y. Awdurdod Datblygu Cymru, MasnachCymru Rhyngwladol, ac yn ddiweddarach Busnes Rhyngwladol Cymru)

-       Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o ddatblygu buddsoddiad? (h.y. annog mewnfuddsoddwyr presennol i ailfuddsoddi)

-       Beth yw’r prif rwystrau sy’n wynebu allforwyr posibl? Pa mor effeithiol yw’r cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU) i leihau’r rhwystrau hyn (e.e. teithiau masnach, cymorth cyllid allforio)?

-       Pa mor gryf yw’r ‘cynnig’ i fewnfuddsoddi yng Nghymru?

-       I ba raddau y mae yna frand Cymreig ystyrlon ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi?

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau.

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad i ni gyhoeddi’ch tystiolaeth. Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i:

pwyllgor.menter@cymru.gov.uk

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

 

Dr Siân Phipps
Clerc, Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn Dydd Gwener 3 Ionawr 2014 ac, yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na phedwar tudalen A4, dylid rhifo’r paragraffau a dylid ei chyflwyno mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 



 

 

Cyhoeddi 29 Tachwedd 2013