Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Ionawr 2014 i'w hateb ar 28 Ionawr 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

 

1. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu streic y Glowyr? OAQ(4)0104(CS)

 

2. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo chwaraeon yn Nhorfaen? OAQ(4)0115(CS)

 

3. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â dyfodol llyfrgelloedd cyhoeddus? OAQ(4)0111(CS)

 

4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o fynediad i gyfleusterau hamdden ledled Cymru? OAQ(4)0108(CS)

 

5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei strategaeth a'i bolisi cenedlaethol ar gyfer chwaraeon, gweithgarwch corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru? OAQ(4)0112(CS)

 

6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad? OAQ(4)0110(CS)

 

7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am annog perchenogaeth gymunedol o chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)0109(CS)

 

8. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â pharhad cyfleusterau hamdden ledled Cymru?  OAQ(4)0118(CS)W

 

9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y meysydd chwaraeon artiffisial modern yng Nghymru, fel 3G a 4G? OAQ(4)0105(CS)

 

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth grefyddol Cymru? OAQ(4)0103(CS)

 

11. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo chwaraeon yn 2014? OAQ(4)0116(CS)

 

12. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision Llwybr Arfordir Cymru? OAQ(4)0113(CS)

 

13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n manteisio ar y Fenter Nofio am Ddim Genedlaethol yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0107(CS)

 

14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol nofio elit yn Abertawe? OAQ(4)0102(CS)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa baratoadau sydd wedi eu gwneud cyn bo Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn dod i rym yn ddiweddarach eleni? OAQ(4)0114(CS)