R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r cynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i adfywio rhanbarth Canol De Cymru? OAQ(4)1197(FM)
2. Julie James (Gorllewin Abertawe):Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â rhoi trefn cofrestru pleidleiswyr unigol ar waith yng Nghymru? OAQ(4)1190(FM)
3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi?OAQ(4)1195(FM)
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ac i esbonio’r ystod o gymwysterau sydd ar gael yng Nghymru?OAQ(4)1191(FM)W
5. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau gofal ataliol i bobl hŷn yng Nghwm Cynon? OAQ(4)1193(FM)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa ganlyniad y mae'r Prif Weinidog yn ei ddisgwyl yn sgîl ymweliadau tramor Gweinidogion? OAQ(4)1194(FM) - TYNNWYD YN ÔL
7. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i amddiffyn pobl hŷn rhag twyllwyr? OAQ(4)1199(FM)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff cau canghennau banciau ar gynhwysiant cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru? OAQ(4)1198(FM)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i amaethyddiaeth yng Nghymru?OAQ(4)1196(FM)
10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau o ran gofal cymdeithasol? OAQ(4)1204(FM)
11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi y bydd arian ar gael i Ambiwlans Awyr Cymru, os bydd angen, i sicrhau parhad y gwasanaeth hanfodol hwn yn y dyfodol? OAQ(4)1192(FM)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r llygredd aer a gaiff ei achosi gan allyriadau cerbydau? OAQ(4)1202(FM)
13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa wiriadau sy’n cael eu cynnal ar wefannau allanol cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu linc iddynt o’i gwefan? OAQ(4)1189(FM)
14. Lynne Neagle (Torfaen):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid i raddau nas gwelwyd erioed o’r blaen? OAQ(4)1203(FM) - TYNNWYD YN ÔL
15. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fasnach deg?OAQ(4)1200(FM)