R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy
1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o sut y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gymeradwyo’r cais ar gyfer fferm wynt Gorllewin Coedwig Brechfa yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio Cymru a pholisïau cynllunio lleol. OAQ(4)0242(ESD)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion i adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe. OAQ(4)0229(ESD)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 21: Gwastraff. OAQ(4)0234(ESD)W
4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pryd y bydd yn cyhoeddi’r penderfyniad ar apêl ddiweddaraf Western Power Distribution i ddatblygu Cronfa Ddŵr Llanisien fel ystad o dai. OAQ(4)0238(ESD)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw opsiynau ar gyfer gorfodi os ceir datblygiad anghyfreithlon ar dir comin. OAQ(4)0230(ESD)
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwarchod yr amgylchedd. OAQ(4)0232(ESD)
7. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn hybu tryloywder yn system gynllunio Cymru. OAQ(4)0239(ESD)
8. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa ddefnydd y mae’r Gweinidog yn ei wneud o gynlluniau bancio amser wrth gyflawni cyfrifoldebau ei bortffolio. OAQ(4)0231(ESD)
9. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael â chlefydau coed yng Nghymru. OAQ(4)0237(ESD)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision Llwybr Arfordir Cymru. OAQ(4)0236(ESD)
11. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella iechyd anifeiliaid yng Nghwm Cynon. OAQ(4)0240(ESD)
12. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo yn amddiffyn cymunedau yng Nghymru. OAQ(4)0241(ESD)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi morol Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0233(ESD)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw waith sydd wedi’i wneud i ddatblygu un gwasanaeth cyngor a hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer cynllunio yng Nghymru. OAQ(4)0235(ESD)W
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli’r perygl o lifogydd yng Ngorllewin Clwyd. OAQ(4)0228(ESD)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a
Threftadaeth
1.
Lynne Neagle (Tor-faen):Pa
asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o'r effaith y
bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gyflwyno taliadau uniongyrchol
ar gyfer elfen dai y credyd cynhwysol yn ei chael ar bobl
sy’n byw yn Nhor-faen. OAQ(4)0241(HRH)
2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael ar gyfer datblygu
cyfleusterau amgueddfeydd. OAQ(4)0231(HRH)
3.Sandy Mewies (Delyn):A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei
Fframwaith Adfywio a lansiwyd yn ddiweddar, sef Lleoedd Llewyrchus
Llawn Addewid. OAQ(40233(HRH)
4.Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y
Bil treftadaeth arfaethedig. OAQ(4)0237(HRH)
5.Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa
gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i ddathlu gwaith
Vernon Watkins, y bardd o Gymru. OAQ(4)0234(HRH)
6. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn):A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynllun adfywio Môn a
Menai. OAQ(4)0232(HRH)W
7.Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog
roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn nifer y bobl
sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru.
OAQ(4)0229(HRH)
8.Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio canol trefi ledled
Cymru. OAQ(4)0227(HRH)
9.Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd tai
rhent preifat er mwyn rhoi gwell gwerth am arian.
OAQ(4)0235(HRH)
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y
Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am
adolygiadau Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.OAQ(4)0240(HRH)W
11.Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fframwaith adfywio newydd
Llywodraeth Cymru, ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn
Addewid’. OAQ(4)0239(HRH)
12.Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
Pa
asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r
effaith y mae’r prosiect peilot Credyd Cynhwysol yn Nhor-faen
yn ei chael o safbwynt tai. OAQ(4)0228(HRH)
13.Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod 2013 i
gynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â safleoedd
treftadaeth yng Nghymru. OAQ(4)0230(HRH)
14.Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lwyddiant ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bobl gartrefi o safon uchel
sy'n gynnes, yn ddiogel ac yn defnyddio ynni'n effeithiol, ers
dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, fel yr amlinellwyd yn y Rhaglen
Lywodraethu. OAQ(4)0236(HRH)
15.Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadwraeth henebion
hanesyddol a hynafol yn Sir Drefaldwyn. OAQ(4)0238(HRH)