R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
1. Keith Davies (Llanelli):A
wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Cyfoeth
Naturiol Cymru. OAQ(4)0218(ESD)W
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am gasgliadau gwastraff cartrefi yng Nghanol De Cymru.
OAQ(4)0221(ESD)
3. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu
cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael
â’r perygl o lifogydd. OAQ(4)0220(ESD)
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am Barthau Cadwraeth Morol Gwarchodedig Iawn
yng Nghymru. OAQ(4)0214(ESD)
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog
roi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith yr ardoll ar fagiau
siopa untro. OAQ(4)0224(ESD)
6. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am oblygiadau ariannol yr achos busnes sy’n
ymwneud â’r corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru.
OAQ(4)0226(ESD)W
7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth
Cymru yn ei wneud i hybu ynni solar yng Nghymru.
OAQ(4)0217(ESD)
8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y
Gweinidog i wella’r ddarpariaeth o fannau agored o ansawdd
uchel gan ddatblygwyr tai drwy'r system gynllunio.
OAQ(4)0223(ESD)
9. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog amlinellu
polisi Llywodraeth Cymru ar geisiadau cynllunio
ôl-weithredol. OAQ(4)0216(ESD)W
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa waith y mae’r
Gweinidog wedi’i wneud yn ddiweddar ar ymchwilio i
dechnolegau amgen ar gyfer gwaredu gwastraff.
OAQ(4)0215(ESD)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei weithgareddau diweddar yn
ymwneud â lles anifeiliaid. OAQ(4)0225(ESD)
12. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff
y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i gynhyrchwyr ynni
adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(4)0222(ESD)
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddarparu manylion am unrhyw adolygiad neu waith y mae ei
swyddogion wedi’i wneud ar Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2:
Glo ac, yn benodol, y gofyniad clustogfa.
OAQ(4)0219(ESD)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
1. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y rheini sydd ag anghenion o ran tai yng Nghymru. OAQ(4)0224(HRH)
2. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo cwmnïau drama amatur yng Nghymru. OAQ(4)0221(HRH)W
3. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin. OAQ(4)0216(HRH)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu treftadaeth Gristnogol Cymru. OAQ(4)0213(HRH)
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i adfywio'r stryd fawr yng Nghymru. OAQ(4)0225(HRH)
6. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cael cynllun busnes derbyniol gan bob awdurdod lleol sy’n dangos sut y byddant yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. OAQ(4)0214(HRH)W
7. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynllun gwarant morgais newydd. OAQ(4)0226(HRH)W
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer annog cymunedau i ddatblygu dealltwriaeth well o’u treftadaeth eu hunain. OAQ(4)0212(HRH)
9. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer adfywio wedi’i arwain gan dreftadaeth yn 2013. OAQ(4)0217(HRH)
10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i helpu prynwyr tro cyntaf. OAQ(4)0222(HRH)
11. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei asesiad o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar ddarpariaeth tai yng Nghymru. OAQ(4)0215(HRH)W
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dreftadaeth filwrol Cymru. OAQ(4)0223(HRH)
13. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gydnabod 200 mlynedd ers genedigaeth John Hughes y flwyddyn nesaf. OAQ(4)0218(HRH)
14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r nifer o bobl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru y bydd y newid mewn budd-dal tai yn effeithio arnynt. OAQ(4)0220(HRH)W
15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru. OAQ(4)0219(HRH)